HNV Showcases
Mwy am rostir maes glo Sir Gâr
Mae hanes am gloddio am lo a mwyn haearn ar y Mynydd Mawr mor bell yn l 1669. Erbyn caur mynydd yn 1813, roedd y fro wedi bod yn ardal ddiwydiannol am ganrif a hanner. Does synod fallai mai i lotau - llefydd bach - y rhannwyd y tir yn hytrach nag yn ffermydd mawr modern, syn awgrymu mai casglu rhent dwsinau o goliers tyddynol oedd nd y tirfeddianwyr. Y math hyn o ddal tir syn gyfrifol am barhad porfa lled-naturiol ac am lawer or ansicrwydd presennol am ddyfodol yr ardal fel ei gilydd.
Gyda chymaint o rosdir devils bit scabious Succissa pratensis, gall yr ardal gynnal rhwydwaith o boblogaethau (metapoblogaeth) o frith y gors Euphydryas aurinia. Dynodwyd rhai or caeau ar gefn yr iar fach yr haf ac mae cymdeithas Gwarchod Glynnod Byw yn rhedeg prosiect i hybu dulliau addas o drin y tir.
Fallai eu bod yn atgof or cwlwm rhwng y coliers gynt au ponis; ta beth, mae cadw ceffylau yn beth cyffredin yn yr ardal. Gan nad ystyriair wladwriaeth hyn yn Amaeth, anaml mae perchnogion sut dir yn rhan or sustem gymorthdaliadau, a mae eu hysgogiad yn aml yn dra gwahanol i ffermwyr iawn. Ran fynycha, mae taliadau confensiynol yn rhy isel iw denu i newid eu harfer, a ta waeth am hynny, anodd iawn newid sustem rhywun syn berchen ond un cae.
Yn y gorffennol roedd llefydd bach y Mynydd Mawr yn cynnig bonws ir colier yn y dyddiau da ar gallu i ddala llygoden ai bytai mewn amser o gynni. Erbyn heddiw, ychydig or perchnogion tir syn ffermwyr. Mae rhai or bobl sy heb geffylau yn rhoi caniatd ir rhai syn berchen creaduriaid i boriu caeau, ond byr-dymor ac ar lafar ywr rhan fwya o gytundebau or fath. Wrth gwrs, prin ywr elw o bori tir heb gymorthdal, ac anodd cael cymorthdal heb ddangosiaeth ar bapur. Yn achos cymorthdal amaeth-amgylcheddol, rhaid ir cytundeb bara am o leia pum mlynedd.
Bach ywr elw ir ffermwr ar dir gwlyb, hyd yn oed o dderbyn cymorthdaliadau, ac maeu hawlio yn golygu tomen o waith papur. Ar y llaw arall, mae tir ar gyfer datblygiadau diwydiannol neu godi tai yn uchel ei bris. Fel gweddill y maes glo, maer Mynydd Mawr yn rhan or ardal Gydgyfeirio, hynny yw un syn diodden economaidd ac yn gallu derbyn cymorthdal o Gronfeydd Strwythurol yr UE. Mae cryn bwysau or herwydd i ganiatu datblygiadau or fath. Ar yr un pryd mae talaidau amaeth-amgylcheddol yn adlewyrchur incwm a gollwyd ir ffermwr trwy gyflawnii gytundeb. Hyd yma, incwm amethyddol yn unig a ystyriwyd - fformiwla ddi-ystyr ac afreal i berchen tir ar y Mynydd Mawr.