Ardaloedd llefydd bach gorllewin Cymru
Mae golwg llawr gwlad De Cymru yn gyfarwydd i bawb. Yn Ffrainc gelwir y patrwm o gaeau bach a chloddiau yn bocage. Da byw ywr prif weithgarwch ar bob fferm, ac erbyn hyn mae da sugno a defaid wedi disodlir fuwch odro ym mhobman ond y tir gorau. Porfa ywr prif borthiant o bell ffordd - ychydig iawn o dir sofl a welir. Prin yw tir heb ei gau, a thir comin ywr rhan fwya o beth sydd ar l.
Mae pennu beth yw ffermdir o Gryn Werth i Natur mewn broydd or fath yn dipyn o sialens. Oes y fath beth systemau o GWN neu a ywr fath dir bron yn ddiwahan yn elfen fach, dibwys o dir bron pob fferm? A ellir dynondi ardal of ffermdir o GWN, lle gellid targedu cymorthdaliadau, neu a yw cefn gwlad yn frith o ffermdir o werth ac o lai o werth?
Yn ddi-os, mae rhai ardaloedd o Dde Cymru, tran dangos nodweddion y bocage, wediu llwyr ymroi i laswelltir wedii wella, a hwnnw dan gryn ddwysedd stoc. Tra bod cryn werth i natur yn y cloddiau yn ddau,ni ellir honni bod y ffermdir ei hunan o arwyddocad neilltuol. Ond mewn rhannau diogel o Geredigion a gogledd Sir Gr maer siau ar cerrig llaid Silwraidd ac Ordoficaidd wedi esgor ar briddoedd syn aml yn llwm ac araf i sychu. Yn sut ardaloedd mae tir gwlyb yn lled gyffredin o hyd, ac mae cenhedlaethau o dlodi wedi creu cefn glwad o ffermydd bach a chaeau bach. Gwelir ardaloedd or fath yn rhywle ym mhob sir yng Nghymru, gan godir un cwestiynnau.
More Information:
