Archive: static snapshot. Forms and interactive features may not work. Not updated or maintained. For current info visit the main site.
Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

HNV Farmland: South Wales

by Gwyn Jones

De Cymru: gweld gwerth mewn gwaun a gwndwn?

Mae tua 1.7 miliwn o 2.1 miliwn hectar arwynebedd Cymru yn dir fferm. Or cyfanswm hwn mae 60% dros 150 m a 27% dros 300 m o uchder. Gyda chymaint o law, o fynydd-dir ac o briddoedd heb fawr o nodd, mae pwysigrwydd y sector da byw yn llawer uwch yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig at ei gilydd.

Dynodwyd 80% or wlad - 1.1 miliwn ha - yn Ardal Llai Ffafriol a thra bod dros 83% or tir amaethyddol yn borfa barhaol neun dir pori garw, dim ond 13% syn dir sofl - 5% yn dir r a 9% yn borfa dros dro.

Er bod godron dal i fod yn bwysig yn yr economi wledig, da bff a defaid sydd r afael dros ran fwya or wlad - dros 5 miliwn o famogiaid a 200,000 o dda.
Gellir rhannu De Cymrun fras yn yr hen ddull - y mynydd a llawr gwlad. Yn y mynydd, system o ransio defaid geir fynycha, tra bod llawr gwlad yn glytwaith o filoedd o gaeau bach a cholddiau - yr hyn a elwir yn bocage yn Ffrainc.

Tra bod rhan fwya o Dde Cymru yn dal yn lled wledig ei naws tu faes ir dinasoedd mawrion, mae un eithriad bwysig - y maes glo. Yn unigryw yng ngwledydd Prydain, maes glo mynyddig sy yn y De. Rhwng y glynoedd enwog u miloedd o bobl mae cyfeiriau lawer o ffermdir o Gryn Werth i Natur (GWN) - ffermdir sydd or herwydd nifer o broblemau neilltuol.

Information galleries

The Elenydd

Yr Elenydd ywr enw a roddir heddiw i asgwrn cefn mynyddig De Cymru ...

Read more: Yr Elenydd


Lowlands

Mae golwg llawr gwlad De Cymru yn gyfarwydd i bawb ...

Read more: Ardaloedd llefydd bach gorllewin Cymru


Coalfield

Prif faes glo De Cymru ywr unig faes glo mynyddig Prydain ...

Read more: Maes Glo De Cymru


High Nature Value farmland in South Wales

Diffinio ffermdir o Gryn Werth i Natur yn Ne Cymru ...

Read more: Ambell ffigyr diddorol



 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: /efncparchive/hnv-showcases/south-wales/welsh/
Date: 2026/02/06
© 2026 EFNCP – All rights reserved.