Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Ardaloedd ‘llefydd bach’ gorllewin Cymru

Lowland South Wales

Mae golwg llawr gwlad De Cymru yn gyfarwydd i bawb. Yn Ffrainc gelwir y patrwm o gaeau bach a chloddiau yn ‘bocage’. Da byw yw’r prif weithgarwch ar bob fferm, ac erbyn hyn mae da sugno a defaid wedi disodli’r fuwch odro ym mhobman ond y tir gorau. Porfa yw’r prif borthiant o bell ffordd - ychydig iawn o dir sofl a welir. Prin yw tir heb ei gau, a thir comin yw’r rhan fwya o beth sydd ar ôl.

Mae pennu beth yw ffermdir o Gryn Werth i Natur mewn broydd o’r fath yn dipyn o sialens. Oes y fath beth â systemau o GWN neu a yw’r fath dir bron yn ddiwahan yn elfen fach, dibwys o dir bron pob fferm? A ellir dynondi ‘ardal’ of ffermdir o GWN, lle gellid targedu cymorthdaliadau, neu a yw cefn gwlad yn frith o ffermdir o werth ac o lai o werth?

Yn ddi-os, mae rhai ardaloedd o Dde Cymru, tra’n dangos nodweddion y bocage, wedi’u llwyr ymroi i laswelltir wedi’i wella, a hwnnw dan gryn ddwysedd stoc. Tra bod cryn werth i natur yn y cloddiau yn ddïau,ni ellir honni bod y ffermdir ei hunan o arwyddocad neilltuol. Ond mewn rhannau diogel o Geredigion a gogledd Sir Gâr mae’r siâau a’r cerrig llaid Silwraidd ac Ordoficaidd wedi esgor ar briddoedd sy’n aml yn llwm ac araf i sychu. Yn sut ardaloedd mae tir gwlyb yn lled gyffredin o hyd, ac mae cenhedlaethau o dlodi wedi creu cefn glwad o ffermydd bach a chaeau bach. Gwelir ardaloedd o’r fath yn rhywle ym mhob sir yng Nghymru, gan godi’r un cwestiynnau.

More Information:


 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/lowlands/
Date: 2024/04/20
© 2024 EFNCP – All rights reserved.