Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Ambell ffigyr diddorol

Diffinio ffermdir o Gryn Werth i Natur yn Ne Cymru

HNV farmland in South Wales

Er bod yn yr ardal gynteddau eang o lystyfiant lled-naturiol ac o gefn gwlad brith o gaeau bach, mae diffinio ffermdir o Gryn Werth i Natur (GWN) yn Ne Cymru yn gosod sawl sialens i’r ecologydd a’r un sy’n llunio polisi.

Mae porfa lled-naturiol yn nodwedd annatod o dir mynydd, a digon rhwydd gosod sut dir yn ‘Math 1’ o deipoleg Asiantaeth Amgylcheddol Ewrop (EEA). Mae dwysedd pori’n isel (<0.5 LU/ha gan fynycha), ond mae nifer y defaid a’r ffaith bod da yn brin ar y mynydd yn gwneud i lawer ddeisyfu newidiadau yn y sustem bori. Mae’r ddau gwestiwn hyn yn cael sylw dan gynlluniau amaeth-amgylcheddol, sy hefyd yn hybu patrwm pori mwy tymhorol. Eu nôd yw troi porfa gwrychyn mochyn (Nardus) yn rosdir grugog ac i wanychu gwellt y bwla (Molinia caerulea) ar y gweunydd. Yn sgîl datgysylltu, a chan nad oes llysyddion mawr gwyllt ar gael i wneud y gwaith, y sialens sy’n wynebu polisi (a fuodd am flynyddoedd yn canolbwyntio yn llethol ar dynnu defaid o’r mynydd) yw diffinio, ac wedyn i gynnal, y dwysedd pori isa sy’n gydnaws ag anghenion cynefinoedd y mynydd, boed hynny mewn tymhorau neilltuol neu dros y flwyddyn gyfan.

Ar lawr gwlad, mae tri prif gwestiwn yn codi. Yn gynta, beth yw ystyr bod ‘o werth i natur’? Mae’r gwahaniaeth amlwg rhwng bocage llawn o dir wedi’i wella - porfa rhygwellt (MG7 yn y Dosbarthaid Llystyfiant Cenedlaethol), er engraifft - a phorfa dan ddefnydd llai dwys yn glir. Ond beth am borfa lled-naturiol sy’n dlawd o ran higher plants ond efallai’n gyforiog o lower plants ac ymlusgiaid - math o borfa sy mor gyffredin mewn rhannau helaeth o Gymru. Yn ail, a ellir siarad yn ystyrol am ‘ardaloedd’ o GWN mewn gwlad le mae porfa lled-naturiol, er yn weddol gyffredin, yn aml yn fwy fel brech ar wyneb y tir. Yn drydydd, oes sut beth a ‘sustemau’ o GWN ar lawr gwlad, neu ai fel rhan ymylol o ffermydd a sustemau mwy dwys y gwelir porfa lled-naturiol ren fynycha? Os oes sut sustemau, mae oblygiadau ym myd polisi - rhaid eu cynnal ar lefel y sustem, nid dim ond ar lefel y cae.

Support payments in Wales

Less Favoured Area (Tir Mynydd) payments

Y Taliad Sengl yw olynydd yr hen daliadau cynnal nwyddau - y rhai a dalwyd wrth y pen neu wrth yr hectar. Yng Nghymru penderfynwyd ddilyn y modd hanesyddol - telir yn ôl y symiau a’r arwynebedd a hawliwyd yn 2000-2002. Am y rheswm hynny mae cryn amrywiaeth ynddynt, ond i roi ryw syniad, byddai rhywun â 1 UDB/ha yn derbyn taliad o tua £120-200/ha cyn modiwleiddio, tra bod fferm fynydd â 0.3 UDB/ha yn derbyn tua £35/ha.

Mae taliadau ar gyfer Ardaloedd Llai Ffafriol (see Tir Mynydd) ar gael yn 80% o’r wlad (gwel. map). Rhennir yn ALlFf yn Ardal dan Anfantais ac Ardal dan Anfantais Fawr. Yn 2009 bydd y taliadau Tir Mynydd yn £30/ha (AAF) a £20/ha (AA), gyda lleihad o 35% dros 140 ha a 70% dros 640 ha. Yr arwynebedd lleia gellir talu arno yw 6 ha ac ni ellir derbyn taliad ar dir a ddefyddir ar gyfer cadw da godro. Ni ddiffinir y ‘gweithgarwch lleia’ a ganiateir, ond rhaid ffermio am bum mlynedd o leia ac i drawsgydymffurfio rhaid pori neu ladd gwair o leia unwaith bob pum mlynedd.

Bwriedir cynnig 4 cynllun amaeth-amgylcheddol. Nid yw’r Cynllun Sensitif i Ddalgylch Afon wedi agor hyd yma, ond ei fwriad yw lleihau effeithiau ffermio dwys. Mae yna hefyd Gyllun Ffermio Organig. Cynllun lefel mynediad yn ymwneud â natur a thirlun yw Tir Cynnal - mae’r Cynllun ar gau i ymgeiswyr newydd. Y cynllun lefel uwch cyfatebol yw Tir Gofal. Digon prin yw’r arian ar gyfer Tir Gofal, ac anodd yw cael derbyniad i’r cynllun ar hyn o bryd.

Mae’r taliadau sylfaenol fel a ganlyn:

  Tir Cynna Tir Gofal
20 ha cynta £45/ha/ flwyddyn £20
21 - 50 ha nesa £30/ha/ flwyddyn £15
51 - 100 ha nesa £25/ha/flwyddyn £10
101 - 200 ha nesa £5/ha/flwyddyn £5
Dros 200 ha £2/ha/flwyddyn £5 (hyd 410 ha)

Mae Tir Gofal yn cynnwys amryw o ddewisiadau, er enghraifft:

Rhostir y mynydd £50/ha
Porfa heb ei wella na’i gau (<2200 ha) £37.50/ha
Porfa gorsiog £85/ha
Caeau gwair wedi’u lled-wella £145/ha

 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/facts-and-figures/
Date: 2024/03/29
© 2024 EFNCP – All rights reserved.