Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Mwy am yr Elenydd

Bywyd ar y mynydd

blanket bogsDynodwyd ardal eang o’r Elenydd o achos ei gorgorsydd (cynefin 7130 yn Anecs 1). Ar ôl canrifoedd o ladd mawn, y prif fygythiadau erbyn heddiw yw awyr llygredig, gorbori, tanau a beics pedair olwyn. Mae yna hefyd ardal fwy cyfyngedig o rosdiroedd Ewropeaidd (cynefin 4030). Ynghyd â’r ddau rug cyffredin (Calluna vulgaris, Erica cinerea) mae llusiau duon bach (Vaccinium myrtillus), gruglus (Empetrum nigrum) a - planhigyn gwir Gymreig - eithin mân (Ulex gallii).
Ar yr Elenydd mae poblogaethau bach - sawl un ohonynt dan fygythiad - o adar y mynydd: y cudyll bach (Falco columbarius); yr hebog tramor (Falco peregrinus); hen harrier (Circus cyaneus); y gwdi-hw glustiog (Asio flammeus); y grugiar goch (Lagopus lagopus scoticus); pibydd y mawn (Calidris alpina); cornicyll y waun (Pluvialis apricaria) and ring ouzel (Turdus torquatus). Credir i’r grugiar ddu (Lyrurus tetrix), fu unwaith yn gyffredin, ddiflannu o’r ardal yn yr ugain mlynedd diwetha. Dynodwyd rhan o’r mynydd yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig, yn rhannol o achos y cudyll bach a’r hebog tramor. Ni ellir beio erlidigaeth am eu trafferthion, sy’n awgrymu mai ar newidiadau yn eu cynefinoedd sydd ar fai.
cattleY fuwch oedd brehines economi’r mynydd ‘slawer dydd. Parhaodd porthmonta hyd Lundain a De Lloegr nes dyfodiad y rheilffyrdd. Dengys hen gofnodion bod yr ardal hyn - Fforest yr Esgob - yn cynnal 240 o dda ar 800(?) ha yn yr oesoedd canol - lefel stocio o o leia 0.3 UDB/ha o dda, heb son am unrhyw ddefaid neu geffylau. Ni wyddys yn gywir pryd daeth y ddafad i dra-aglwyddiaethu ar y fuwch, ond erbyn y 1970au ‘doedd prin un fuwch ar y mynydd. Dechreuwyd troi’r treio, fel y dengys y llun, ond isel iawn y niferoedd o hyd. Os ydynt i gael effaith lleisiol gwerth chweil ar ansawdd a strwythyr y borfa, rhaid i cymorth y wladwriaeth gymryd i ystyriaeth y cynydd sylweddol mewn amser sydd angen i edrych ar eu hôlau.
sheepMae i ransio defaid yn yr Elenydd hanes hir - dywedir mai’r Sisteriadiad o fynachlog Ystrad Fflur, a seiliwyd yn 1164, a ddechreuodd yr arfer. Ar ddechrau’r 20fed ganrif, cadwyd hyd at 0.35/ha (dafad i bob cyfair) yn yr ardal a welir yn y llun. Gyda dyfodiad dulliau o ail-hau’r mynydd a dwysfwydydd am bris rhesymol, cynydddodd eu nifer bron yn ddi-baid hyd y 1990au, pan gyrhaeddodd y cynlluniau agri-amgylcheddol cyntaf. Mae defaid yn borwyr SELECTIVE, ond anodd dweud a gynyddith amrywiaeth y planhigion yn y borfa wrth i’w nifer leihau neu os bydd patrwm y pori yn fwy tymhorol. Mae’r cymorthdaliadau sydd ar gael fel arfer yn fwy na’r elw sy’n deillio o’r gadw’r defaid, ond mae’r cwlwm rhwng y taliad a’r gweithgaredd amaethyddol bellach yn wan iawn. Mae’r barcud coch yn dibynnu i raddau helaeth ar gorygau defaid, on yn ôl deddfau’r UE, rhaid eu cyrchu o’r mynydd a’u DISPOSE BY A KNACKER.
oak woodsErys nifer o elltydd derw ar ymylon y mynydd. Maent yn rhan o nodweddion dynodedig yr ACA (cynefin Anecs I 91A0) ac yn hafan i gymundedau toreithiog o lower plants. Ymddengys i boblogaeth gynhenid Prydain o’r barcud coch (Milvus milvus) edwido i un fenyw yn byw ar ffiniau deheuol yr Elenydd. Diolch yn rhannol i ffermwyr yr ardal yn diogelu nythod, mae’r barcud ebyn hyn yn gyffredin trwy’r Canolbarth ac yn denu ymwelwyr lu. Mae’r tingoch (Phoenicurus phoenicurus), y gwybedog brith (Ficedula hypoleuca) a thelor y coed (Phylloscopus sibliatrix) oll yn adar nodweddiadol sydd â’u cadarnleoedd Prydeinig yng ngelltydd Cymru. Mae pori yn atal adfywiad y coed yn y rhan fwyaf o’r gelltydd.
ElenyddMae dwr croyw’r Elenydd wedi cyflenwi anghenion pobl Birmingham ers 1904. Er is gyffiniau cronfeydd Elan gael eu plannu i gadw creaduriaid oddi wrth lan y dwr, mynydd agored yw gweddill eu dalgylch - yr ardal fwya o dir agored yng nganolbarth Cymru. Codwyd argae Brianne yn 1972 i reoli llif afon Tywi er hyrwyddo tynnu dwr ar gyfer Abertawe ar bwys Nantgaredig. Boddwyd sawl gallt o goed derw yn y broses.
conifersY newid mwya yn nefnydd y tir yn ystod y cyfnod hanesyddol, a’r mwya andwyol, fu plannu coed gleision (sbriwsen Sitka Picea sitchensis gan fynycha) ar raddfa enfawr, yn enwedig ers y 1960au. Mae’r fforestydd yn rhannu’r mynydd yn ddau floc mawr, yn cyfrannu at asideiddio’r nentydd lleol, ac fe’u crewyd trwy ddinistrio cynteddau mawr o gynefinoedd lled-naturiol. Er eu bod yn gartref i newydd-ddyfodiaid fel y gwalch marth (Accipiter gentilis), mae’r cyfeiriau o goed gleisio yn arwydd parhaol o fethiant i weld gwerth tir mynydd lled-naturiol mor diweddar â’r 1980au.
uplandsMae hanes aneddu ar y mynydd yn ymestyn ‘nôl cyn hanes. Anodd dweud llawer am y cyfnod cyn Deddf Ymgorffoli Cymru yn Lloegr yn 1536, gan nad oes gweithredoedd ar gael cyn hynny, ond yn achos Fforest yr Esgob, cofnodir 15 aneddle yn y 14eg ganrif. Ar dro’s 19eg ganrif ‘roedd o leia 28 teulu yng Ngwm Doethïe, a welir yma. Erbyn yr 1950au, ‘doedd neb yn byw yno, er bod pobl yn un fferm erbyn heddiw. ‘Roedd cnydau o farlys ar rai o’r ffermydd yn hanner cynta’s 20fed ganrif, a thorrai pawb wair, gan gynnwys ‘gwair cwta’ ar y mynydd ei hunan. Aed i bobman ar gefn ceffyl, ac wrth gwrs roedd ar hwnnw angen ei fwydo’n ogystal. Yn ystod y ganrif ddiwetha gwelwyd cryn symleiddio ar y gymysgedd o stoc ac ar y defnydd a wneir o’r tir. Os digwydd i bolisi newydd yn yr 21fed ganrif hybu ‘defnydd tir llai dwys’, mae’n debyg mai system newydd fflam, nid hen systemau atgyfodedig a welir.
acid grasslandPorfa asid, prin o rywogaethau, welir fynycha ar yr Elenydd. Mae dau wair yn dominyddu - gwrychyn mochyn (Nardus stricta) ar y gwndwn sych a gwellt y bwla (Molinia caerulea) ar y waun. Digon diflas yw’r ddau i greaduriaid ac yn achos y gwellt y bwla collddail, dim ond da a cheffylau eith yn agos ato, a hynny ddim ond am gyfnod byr yn y gwanwyn. Ymddengys yn weddol siwr bod difodiant da’r mynydd wedi esgor ar ffyniant gwellt y bwla yn enwedig; digon aneglur serch hynny yw’r graddau y deuai’r ddau fath o borfa’n fwy cyforiog o flodau pe newidid y dwysedd a’r math o stoc. Daeth yn ffasiynol i weld tir gwndwn y mynydd fel ffurf lygredig, dlawd o rosdir grugog, ac mai adfer y rhosdir oedd yr unig nôd i gadwraeth. Yn sgîl datgysylltu cymorthdaliadau a chynhyrchu, gwanychwyd y rheswm ariannol dros gadw stock ar y mynydd; rhaid wedyn gofyn am neges bositif - neges yn gofyn am newidiadau sylfaenol, hyd yn oed, os oes raid - i’r ffermydd mynydd oddi wrth y dynion polisi.
Nant IwrchMae’r enw Nant Iwrch (sef Capreolus capreolus) yn atgof o’r dyddiau, rai canrifoedd yn ôl, pan oedd llysyddion mawr gwyllt yn pori ar yr Elenydd. Cawd gwared arnynt ers blynoddoedd ac felly mae swyddogaeth porwyr dof yn oll-bwysig. Nhw sy’n pennu strwythur a chyfansoddiad y borfa. Gwyddys bod rhedyn (Pteridium aquilinum) yn ymgryfhau pan na fod pori gan dda, er bod ei leoliad yn aml yn adlewyrchu dosbarthiad coed yn yr oesoedd a fu. Tra’i fod yn gynefin i greaduriaid fel y brith perlog bach (Boloria silene), mae rhedyn nawr yn tagu ochrau llawer o fencydd yr Elenydd.

 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/elenydd/pastoral-farming/
Date: 2024/04/25
© 2024 EFNCP – All rights reserved.